FForwm Pobl Hŷn
Covid-19 Diweddariad
Oherwydd y sefyllfa iechyd ni fydd FForymau pobl hŷn Siroedd Conwy a Dinbych yn cael ei cynnal onibai am gyfarfodydd ar gyfrifiadur.
Bydd ein cydlynwyr Abbe Willaims (Sir Ddinbych) ac Alessandra Thomas (Sir Conwy) yn cadw mewn cysylltiad a chi ar y ffon neu ar lein. Byddant hefyd yn danfon y cylchlythyr yn rheolaidd gan gynnig gwybodaeth a rhannu hanesion.
I dderbyn cylchlythyr cysylltwch a ni ar 0300 2345 007
FForwm Pobl Hŷn
Dyma’r lle i unrhyw sydd dros 50 oed cael cyfarfod i drafod yr hyn sy’n effeithio arnyn nhw ai cymunedau gan ac i sicrhau bod y wybodaeth angenrheidiol yn cyrraedd y sefydliadau priodol a’r Cyngor Sir.
Cewch ddweud eich dweud am y pethau sy’n effeithio arnoch chi.
Mae’r Fforymau ar gyfer:
- Unrhyw un dros hanner cant oed
- Trafod pethau sy’n effeithio ar eich lles a iechyd
- Rhannu syniadau a gwybodaeth
- cael sgwrs gydag eraill yn eich cymuned
- Gwrando ar siaradwyr gwadd diddorol
- cael gwybodaeth ar ystod eang o bynciau
- Cymeryd rhan mewn ymgynhoriadau a gwneud penderfyniadau
Rhedir y Fforymau yn annibynnol gan yr aelodau gyda cymorth gan staff ACNWC. Cefnogir y Fforwm gan y Cyngor Sir lleol fel ffordd o rhannu gwybodaeth gyda pobl hŷn wrth gynllunio a darparu gwasanaethau are eu cyfer.